AVISO

AVISO (12/03/23):
Debido a la gran cantidad de juicios por jurados llevados a cabo en una decena de provincias de Argentina, la AAJJ dejará de publicar crónicas individuales por cada juicio y comenzará a publicar resúmenes mensuales

viernes, 17 de febrero de 2023

CHUBUT: Euogfarnwyd Curiqueo o lofruddiaeth yn yr achos cyntaf o flaen rheithgor

 

Aiff y rheithgor yn Gaiman I drafod eu penderfyniad

Mae heddiw y ddiwrnod mawr i ddemocratiaeth Chubut, i’r Ariannin ac i America Ladin.  Mewn cyfarfod dinesig llawn emosiwn ac yn llawn dymuniadau a gedwid ers amser , daethpwyd i ben yn llwyddiannus â’r achos llys cyntaf gyda rheithgor ar dir Chubut yn yr unfed ganrif ar hugain.   

Chubut oedd y dalaith gyntaf yn yr Ariannin i gael mwy na 40 o achosion gydag rheithgorau penydiol a dinesig diolch i’r setlwyr a ddaeth o Gymru ym 1865. Balchder a anrhydedd i’r dalaith hyfryd patagonaidd.  

Yn ystod yr ugeinfed ganrif, diffoddwyd unig fflam y system gyfreithiol ar lafar, gan reithgor yn gyhoeddus oedd yn cydfynd â Chyfansoddiad 1953 gan system ymchwiliad ysgrifenedig.  Ond gorffenwyd hwn am byth heddiw yn Chubut. Does dim troi yn ôl. Ar ôl cymaint o flynyddoedd o frwydro a rhwystredigaeth daeth breuddwyd y Cyfansoddwyr mai’r bobl fyddai’n beirniadu’r troseddau yn wir.  

Gyda thro yn hanes y gyfraith digwyddodd yn yr un lle â’r rheithgor cyntaf yn yr Ariannin, achos dathlwyd yr achos cyntaf yn y cyfnod newydd yn Gaiman,  man cychwyn y mewnfudiad Cymreig.


Yr Amddiffynydd Cyffredinol Daroca, Y Maer James a’r barnwyr o’r  STJ Banfi a Vivas


Talwyd teyrnged cynnes I’r Maer Darío James yn ystod digwyddiad mor bwysig gyda chyflwyniad placiau bychain.  

Cynhyrchwyd ymateb cyhoeddus pwysig gan yr achos a’r feirniadaeth yn y dalaith ac yn y wasg genedlaethol.  

Talodd yr AAJJ deyrnged teimladwy I’r bobl a frwydrodd yn ystod degawdau yn Chubut er mwyn gwireddu’r breuddwyd:  José Raúl Heredia, Alfredo Pérez Galimberti, Alberto Binder, Rodrigo Freire, Jorge Benesperi a llawer mwy.


Binder, Pérez Galimberti  a Heredia

 

YR ACHOS

Yr ystafell yn llawn gyda phresenoldeb
y Procuradur Miquelarena

Gyda rheithfarn unfrydol o euogrwydd yn erbyn y cyhuddedig Romero Curiqueo fel yr un a fu’n gyfrifol am lofruddiaeth difrifolach oherwydd y defnydd o ddryll daethpwyd i ben â’r achos cyntaf gyda rheithgor a wnaethpwyd o dan y Gyfraith XV N° 30 ddydd Iau.

Tua 18:40 yn y prynhawn gorffenodd y rheithgor dinesig o chwech o wragedd a chwech o ddynion ac chyhoeddant eu bod wedi dod i benderfyniad.  Wedi ei wisgo  mewn toga ddu a gyda morthwyl, gorchmynodd y Barnwr Gustavo Castro -mewn ffordd berffaith- i gadeirydd y rheithgor ddarllen y penderfyniad i’r llys agored gyda’r cyhuddedig ar ei draed.  

Digywyddodd y llofruddiaeth ar 17 Chwefror 2022 yn rhanbarth gogledd-ddwyrain Trelew.

Bu’r cyhuddiad yn nwylo y cyfreithwyr ffisgal Griselda Encinas a Lucas Koltsch. Bu eu cyhuddiadau wrth agor werth son amdanynt.  Yn ogystal, bu amddiffyniad y cyhuddedig yn nwylo ei gyfreithwyr Gladys Olavarría a Fabián Gabalachis, hefyd gwerth eu clywed. Cafodd pob un ohonynt, y barnwr a’r cyfreithwyr, yr anrhydedd o fod ym mhlith y cyntaf I agor achos gyda rhiethgor yn y cyfnod hwn yn Chubut. 

Cyn cau  rhan y dystiolaeth, penderfynodd Curiqueo siarad o flaen y rheithgor dinesig, y barnwr a’r cyfreithwyr.  Rhoddodd felly ei fersiwn o’r digwyddiadau ar y noson honno wrth strydoedd Abraham Matthews a Cacique Nahuelpan Norte, yng nghymdogaeth 8 de diciembre.

Ar ôl clywed y cyhuddedig, aeth y rheithgor i saib er mwyn i’r barnwr, y cyfreithwyr ffisgal a’r amddiffynydd drafod y cyfarwyddiadau y byddai’r ynad yn rhoi i aelodau’r rheithgor ar ôl y cyhuddiadau o’r gwahanol ochrau.


Cyhuddiadau a chyfarwyddiadau

Cyfreithwyr ffisgal a’r Amddiffynydd (gyda Curiqueo)


Bu gan y cyfreithiwr ffisgal Lucas Koltsch y cyfrifoldeb o gau y cyhuddiadau ar ran Gweinyddiaeth Ffisgal Cyhoeddus ac yn ei anerchiad i’r rheithgor pwysleisiodd yn arbennig y ffaith bod y dystiolaeth a welwyd gan y rheithgor yn ystod yr achos yn ei wneud yn amhosib i Juan Martín Montesinos gyfrannu ei fersiwn o oherwydd ei fod wedi marw yn y digwyddiad. Yn ogystal dangosodd bod y cyhuddedig wedi mynd lawr o’i gar gydag arf a bod y canlyniad i hyn wedi ei amlygu yn y digwyddiadau a soniwyd amdanynt cynt.  

Yn ei dro, siaradodd Dr. Fabián Gabalachis, ar ran yr amddiffyniad technegol a dywedodd gerbron y rheithgor dinesig nad oedd gan Alejandro Aaron Romero Montesinos ddiddordeb na fwriad i ladd “Pelado” Montesinos, yn hytrach ymatebodd i’r ymosodiad ac ‘y ffyrnigrwydd’ a dderbyniodd fel dioddefwr y digwyddiad, gyda’r hyn a fyddai’n achos o amddiffyniad cyfiawn neu, mewn fersiwn wahanol, yn ormodedd o amddifyniad cyfiawn.  

Pwysleisiwyd gan y ddwy ochr ymddygiad a dewrder y rheithgor wrth ymgymryd â’r rôl newydd o dan y gyfraith sydd yn cael ei roi i ddinesyddion cyffredin yn y system gyfreithiol o’r troseddau mwyaf difrifol ar y raddfa penydiol.   

Ar ôl clywed y dystiolaeth o’r ddwy ran, rhoddodd y Barnwr Penydiol Gustavo Castro gyfarwyddiadau i’r rheithgor ar bynciau fel sut i ymddwyn yn ystod y trafodaethau, agweddau o gyfrifoldeb y rheithgor, triniaeth y dystiolaeth neu sut i weithredu’r gyfraith wrth edrych ar y drosedd, ymhlith pethau eraill.


Y ddedfryd


Trefniant y drafodaeth

Mae trefniant yr achos yma gyda rheithgor yn haeddu paragraff ar ei ben ei hunan. Mewn ychydig o achlysuron welir cymaint o broffesiynoldeb ac ymdrech gan Bwerau’r Gyfraith.  Llwyddodd Swyddfa’r Gyfraith o dan gyfrifoldeb Patricia García i sicrhau bod yr achos hwn wedi rhedeg heb fod unrhyw achos arall o dan common law wedi gallu bod yn well.

Ni fyddai hynny wedi bod yn bosib heb arweiniad a gweledigaeth Tribiwnlys Uchaf y Gyfraith.  Ers Mai 2022,  gweithiodd y TUG gyda’r barnwyr Camila Banfi a Daniel Baez ar y cynllun i weithredu trwy Gyfraith XV rhif 30, gyda chymorth y Barnwr Cadeirydd Mario Vivas. Cynhaliodd yr MPF gyrsiau hefyd er mwyn hyfforddi y cyfreithwyr ffisgal.



Swyddfa’r rheithgor lawn

Leer noticias aquí:

- Jus Noticias (14/02/23): "Juicio por Jurados: El Poder Judicial entregó reconocimiento en Gaiman" (ver)

- El Chubut (16/02/23): "Juicio por Jurados: declararon culpable al imputado por homicidio" (ver)

- Crónica (16/02/23): "Declararon culpable al acusado en el primer Juicio por Jurados de Chubut" (ver)